Ein cenhadaeth yw sicrhau bod gan bob ysgol gynradd yn y DU lyfrgell neu ofod llyfrgell pwrpasol. Rydym yn ymgyrchu dros newid ac yn cynnal rhaglenni sy'n creu diwylliant darllen er pleser cryf mewn ysgolion cynradd.
Mae Llyfrgelloedd i Ysgolion Cynradd yn rhaglen sydd wedi'i hariannu'n llawn ac mae'n rhad ac am ddim i ymuno â hi, gan gynnig pecyn anhygoel o lyfrau, adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth i ysgolion cymwys i sefydlu neu wella llyfrgell ysgol.
Pan fydd plant yn darllen er mwyn pleser maen nhw'n cael graddau gwell yn yr ysgol, yn dangos mwy o empathi tuag at eraill ac yn nodi lefelau uwch o lesiant. Mae ein cyhoeddiadau'n dadlau dros ddarpariaeth llyfrgelloedd ysgolion cynradd egyffredinol.
Rydym am greu cynghrair gyda phwrpas cyffredin: sicrhau bod pob plentyn, waeth beth fo'i gefndir neu leoliad, yn gallu cael gafael ar lyfrau trwy lyfrgell ysgol o safon. Ymunwch â ni!